Annie EirlysEVANSYn dawel yn Ysbyty Gwynedd ar yr 18ain o Hydref 2023 bu farw brenhines teulu ni. Gwraig cariadus y diweddar Tom, mam arbennig Iona, Mai a'r ddiweddar Heulwen, mam yng nghyfraith Bill, Hari a Geraint, nain a hen nain hoffus a hwyliog ac Anti Eirlys i bawb. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Gwener Tachwedd 3ydd, preifat yng Nghapel Gorffwys Minafon, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Fynwent Y Dref, Llangefni am 11.30 y bore. Rhoddir i orffwys yn y fynwent. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Eirlys yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Hen Ysgol Llanddona ac Ambiwlans Awyr Cymru drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111.
Keep me informed of updates